Thursday 15 January 2015

Llwyddiant Dŵr Pant Du, a'i fanteision iechyd arbennig!

Dŵr Ffynnon o Gymru Pant DuPant Du : Dŵr Ffynnon o Gymru


Menter ddiweddaraf cwmni Pant Du yn ffynnu!


Fe lansiwyd Dŵr Ffynnon Pant Du yn ôl ym mis Mawrth 2014, ac ers hynny mae'r dŵr wedi cael derbyniad arbennig.

Mae'r dŵr yn tarddu o ddyffryn rhewlifol Dyffryn Nantlle, wrth droed Mynyddoedd anhygoel Eryri. Mae’r dŵr yn cael ei buro a'i hidlo'n naturiol wrth iddo deithio drwy’r creigiau folcanig, Cyn-Gambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed. Taith arbennig y dŵr sydd yn sicrhau ei burdeb a'i flas meddal naturiol.

Ond yn fwy anhygoel na hynny yw lefel pH y dŵr ffynnon, sef pH 7.35; y lefel delfrydol ar gyfer y corff. Mae ymchwil helaeth yn dangos fod anghydbwysedd mewn lefelau pH y corff yn medru effeithio'n negyddol ar ein hiechyd cyffredinol. Gan fod y corff dynol wedi'i ffurfio o 70% o ddŵr, mae'n hollbwysig yfed dŵr sydd â lefel y pH mor agos at 7.35 a phosib.(link) Dyma pam fod Dŵr Ffynnon Pant Du mor arbennig!

Dŵr potel yw'r unig ddiod ar ei'n silffoedd sydd heb unrhyw galorïau, dim siwgr, dim cadwolion (preservatives) a dim ychwanegion; sy'n ei wneud y dewis iachaf sydd ar gael. Beth am roi cynnig i ddŵr Pant Du eich hun?!

www.pantdu.co.uk